
LLUNIWCH DDYFODOL ABERTAWE
FEL PRIF GYRCHFAN DIGWYDDIADAU
GWNEUD ABERTAWE YN GYRCHFAN DIGWYDDIADAU O'R RADD FLAENAF
YMGYNGHORIAD AR STRATEGAETH DIGWYDDIADAU ABERTAWE –
MAE ANGEN EICH ADBORTH A'CH BARN
Helpwch ni i gadarnhau'r Strategaeth Digwyddiadau 10 mlynedd a fydd yn trawsnewid Abertawe a'r sir yn lle hyd yn oed yn fwy bywiog a chynhwysol ar gyfer digwyddiadau a gwyliau. Mae'r strategaeth hon wedi'i llywio gan adborth cyhoeddus, ymchwil ac ymgynghori cynharach â phartneriaid a rhanddeiliaid.
Nod yr arolwg adborth yw bod yn gyflym ac yn hyblyg:
-
Gallwch adolygu'r syniadau allweddol a nodi i ba raddau rydych yn cytuno â nhw.
-
Gallwch ychwanegu syniadau i esbonio eich barn.
-
Gallwch ddarllen y strategaeth lawn os ydych am gael rhagor o fanylion.
BYDD EICH ADBORTH YN HELPU I FIREINIO A CHADARNHAU'R STRATEGAETH
Lluniodd Cyngor Abertawe Strategaeth Diwylliant uchelgeisiol yn ddiweddar ac un o argymhellion allweddol yr ymchwil a'r adborth lleol oedd datblygu Strategaeth Digwyddiadau benodol. Yn dilyn yr argymhelliad hwn, mae'r cyngor, gan weithio ochr yn ochr â chwmni sy'n arbenigo yn y maes, Alpha 1 Events, wedi goruchwylio'r broses o lunio'r strategaeth digwyddiadau flaengar a chyraeddadwy hon – ac mae angen eich arbenigedd arnom i sicrhau y bydd yn llwyddo.
Gwrando
01.
Gwnaethom ofyn i'r cyhoedd, arbenigwyr yn y sector a rhanddeiliaid am eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol digwyddiadau yn Abertawe.
CAMAU NESAF
EISOES WEDI CYMRYD RHAN YNG NGHAM 1?
GWEITHREDWCH NAWR
MAE EICH BARN
YN BWYSIG!

Eisiau mwy o fanylion?
Darllenwch y strategaeth ddrafft lawn i gael rhagor o wybodaeth a thystiolaeth.
Gall eich adborth fod yn gyflym neu'n fanwl – mae pob ymateb yn bwysig.
Daw’r arolwg i ben ar 4 Gorffennaf 2026 am 11pm.
Mae copïau caled o'r arolwg ar gael i'w casglu yn:
Neuadd y Ddinas Abertawe, 12 Guildhall Rd N, Abertawe SA1 4PE

CWBLHEWCH YR AROLWG ADBORTH AR Y STRATEGAETH DDRAFFT



























